nol i News rhestr

Mae 2010 yn flwyddyn arbennig o dda i winllannoedd Cymru.

Gyda'i gilydd, mae 2 o winllannoedd Cymru wedi ennill 10 gwobr yng Nghystadleuaeth Gwin y Flwyddyn Cymru a Lloegr, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Shaftsbury, Dorset.

Fe enillodd Ancre Hill Estates o Drefynwy fedal arian, 2 fedal efydd a chanmoliaeth uchel. Ac mae’r gwobrau hyn yn dilyn yn Ôl traed gwobr arian yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter a gwobr efydd yn y Gystadleuaeth Gwin a Gwirodydd Rhyngwladol. Fe enillodd Parva Farm Vineyard, ychydig i lawr yr heol yn Nhyndyrn yn Nyffryn Gwy, fedal arian, pedair medal efydd a chanmoliaeth uchel gyda’u gwinoedd nhw.

Mae Ancre Hill, sy’n eiddo i Richard a Joy Morris, yn un o’r gwinllannoedd ifancach yng Nghymru – fe’i plannwyd yn 2006. Maen nhw wedi ennill gwobrau gyda’u cynhaeaf cyntaf o win (2008) a nawr mae eu gwinoedd 2009 wedi parhau â’r duedd hon, gan ennill gwobr arian am eu “Gwin Cymraeg Rhanbarthol gwyn sych 2009” a gwobr efydd am eu “Gwin Cymraeg Rhanbarthol cymedrol-sych gwyn 2009” a “Gwin Cymraeg Rhanbarthol cymedrol-sych gwyn 2008”. Fe enillodd eu rose 2009 Ganmoliaeth Uchel. Yn bennaf, mae Richard a Joy yn tyfu grawnwin Pinot Noir, Seyval Blanc a Chardonnay ac maen nhw’n mynd i arbenigo mewn gwinoedd pefriog o ansawdd uchel – fe fyddan nhw’n rhyddhau’r cyntaf ohonynt yn 2012.

Fwy na thebyg mai gwinllan Parva Farm Vineyard yw’r hynaf yng Nghymru – fe’i plannwyd yn 1979 gan y perchennog gwreiddiol, a phlannwyd gwinwydd newydd yn 2002-5 gan y perchnogion presennol, Colin a Judith Dudley. Mewn rhai blynyddoedd, Parva Farm oedd yr unig winllan i chwifio banner Cymru mewn cystadlaethau. Eleni, cawsant wobr arian am eu “Tintern Parva Rhosyn 2009” yn ogystal â gwobr efydd am “Tintern Parva Afon Gwy 2009” (gwyn cymedrol-sych), “Tintern Parva Bwthyn Rhosyn 2008” (rose), “Tintern Parva Bacchus 2006” (gwyn cymedrol-sych) a “Tintern Parva Dathliad 2005” (pefriog) gyda Chanmoliaeth Uchel am eu Bacchus 2009. Mae rose yn arbenigedd i winllan Parva Farm Vineyard – ac mae’r hen winwydd Pinot Noir yn rhoi arogl a blas hyfryd i’r gwin.

Mae pethau’n sicr yn argoeli’n dda i winllannoedd Cymru, yr hen a’r newydd, a’u gwinoedd, sydd wedi eu gwneud o rawnwin a dyfwyd ar lechweddau gwyrddion Cymru. Pan fyddwch chi’n ymweld â Threfynwy a Dyffryn Gwy yn Nhyndyrn, cofiwch dreulio peth amser yn blasu’r cynaeafau arbennig hyn.

website link
website link

Mae 2010 yn flwyddyn arbennig o dda i winllannoedd Cymru. Ystadegau: 621 edrychiadau ers 01-Jan-2011

Overview

Gyda’i gilydd, mae 2 o winllannoedd Cymru wedi ennill 10 gwobr yng Nghystadleuaeth Gwin y Flwyddyn Cymru a Lloegr, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Shaftsbury, Dorset.

e-Cylchlythyr

Newyddion a chynigion arbennig diweddaraf! ymaelodwch a chylchlythyr gwnaed yn sir fynwy.

Gwybodaeth Safle

hawlfraint © 2010 Gwnaed yn Sir Fynwy

Cefnogwyd gan: Cyngor Sir Fynwy Yr Undeb Ewropeaidd Amcan Un Adventa.