nol i News rhestr

Eisteddfod Genedlaethol

Bu Gwnaed yn Sir Fynwy yn arddangos

Bu Gwnaed yn Sir Fynwy yn arddangos gwaith rhai o artistiaid a chrefftwyr gorau’r sir yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

Bydd ffilm fer am brofiad yr arddangoswyr yn yr Eisteddfod i’w gweld website link.

Yn Ôl Becky Hughes, Swyddog Arloesi mewn Twristiaeth adventa, roedd y digwyddiad yn gyfle unigryw i gyflwyno crefftwyr Sir Fynwy i gynulleidfa newydd.
“Gyda’r Eisteddfod ar garreg y drws eleni, fe benderfynon ni fynd amdani. Bu’r stondin yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu cannoedd o ymwelwyr.”

Roedd ein stondin yn cynnwys paentiadau gan David Haswell a Nora Lewis ochr yn ochr â gemwaith gan Annette Yates, Louise Lovell, Marion Meek a Lynn Kristen Clarke. Roedd cyfle hefyd i brynu crefftau wedi’u gwehyddu â llaw gan Stuart Neale, gwaith metel Chris Goodgame, crefftau gan y turniwr pren Mike Bloomfield a gwaith caligraffeg gan Tessie Cooling.

Bu cynhyrchwyr bwyd lleol – yn cynnwys Gwenynfeydd Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg, Gwinllan Parva Farm, Charcuterie Trealy Farm a Neil James y cigydd – yn arddangos eu danteithion yn yr Eisteddfod yn neuadd fwyd y Cynulliad, a threfnodd adventa gyfres o arddangosiadau coginio gan ddefnyddio’r gorau o gynhwysion Sir Fynwy.

Eisteddfod Genedlaethol Ystadegau: 673 edrychiadau ers 01-Jan-2011

Overview

Bu Gwnaed yn Sir Fynwy yn arddangos gwaith rhai o artistiaid a chrefftwyr gorau’r sir yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

e-Cylchlythyr

Newyddion a chynigion arbennig diweddaraf! ymaelodwch a chylchlythyr gwnaed yn sir fynwy.

Gwybodaeth Safle

hawlfraint © 2010 Gwnaed yn Sir Fynwy

Cefnogwyd gan: Cyngor Sir Fynwy Yr Undeb Ewropeaidd Amcan Un Adventa.