Gwnaed yn Sir Fynwy
siop-un-stop sy'n dangos cyfoeth o gynnyrch lleol blasus, anrhegion hardd wedi'u gwneud â llaw, gemwaith chwaethus a chelf ysbrydoledig a gynhyrchwyd yn y sir, gyda manylion ynglŷn â ble i'w prynu.
Mae Gwnaed yn Sir Fynwy yn dathlu doniau creadigol crefftwyr lleol, sgiliau cynhyrchwyr lleol a'r ffordd y maent yn cadwr traddodiadau a luniodd y dirwedd yn fyw. Beth am fwrw golwg ar yr amrywiol artistiaid, crefftwyr, cynhyrchwyr a siopau?
Lansiwyd menter Gwnaed yn Sir Fynwy, syn rhan o raglen adventa i gefnogi datblygiad gwledig ac i ychwanegu gwerth at gynhyrchion lleol, mewn derbyniad i arddangos cynhyrchion ym mis Tachwedd 2005.
Mae Gwnaed yn sir Fynwy yn rhoi sylw i eitemau a wnaed yn lleol, o adnoddau cynaliadwy mewn ffordd syn gyfrifol o ran yr amgylchedd, lle bo modd.
Yn dathlu.... doniau creadigol crefftwyr lleol, sgiliau cynhyrchwyr lleol a'u cyfraniad at gadw traddodiadau sydd wedi llunio'r dirwedd yn fyw.
Yn hyrwyddo.... celf, crefftau a chynnyrch o ansawdd uchel.
Yn cefnogi..... yr economi wledig ac yn gwarchod yr amgylchedd drwy annog trigolion ac ymwelwyr i 'brynu'n lleol'.
Gwnaed yn Sir Fynwy Ystadegau: 29994 edrychiadau ers 25-Jan-2010
Prynwch yn lleol
Sefydlwyd y fferm hon gan Philip a Josie Bevan a'u pedwar mab ac mae bellach ar ei chweched flwyddyn. Mae dros ddeugain math o lysiau organig tymhorol yn cael eu tyfu yn Nhŷ Mawr.dolen ir busnesau
Eisteddfod Genedlaethol
Bu Gwnaed yn Sir Fynwy yn arddangos gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.Mentrau Cydweithredol

.